Cynhadledd | 6 - 7 Tachwedd 2023 | ICC Wales, Casnewydd | #FutureEnergyWales

Dyfodol Ynni Cymru 2023

Ymunwch â'n digwyddiad wrth i ni eich tywys ar hyd map tirwedd ynni adnewyddol Cymru dros dau ddiwrnod. Edrychwch ymlaen at arddangosfa ddeinamig, rhaglen arloesol, a holl newyddion achyfleoedd diweddaraf y sector.

Mae'r Dyfodol yma Nawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed ffurfiol i Gymru i gynhyrchu 100% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae'r cloc yn ticio. Mae’n rhaid cyflawni a gweithredu yn awr.

Beth fydd yn ei gymryd inni lwyddo fel cenedl?

Rydym yn wynebu her enfawr a chodiad sylweddol mewn galw am ynni wrth i ni symud tuag at drydaneiddio diwydiant, gwresogi a thrafnidiaeth i bweru ein cartrefi a'n busnesau yn y dyfodol.

Ni all un dechnoleg yn unig gyflawni sero net, ond mae Cymru'n lwcus oherwydd ei bod wedi ei bendithio â rhai o'r adnoddau naturiol gorau yn Ewrop, o'r gogledd mynyddig i'r de ddiwydiannol a'i chyfoeth naturiol ar y glannau. Dim ond drwy fanteisio ar y cyfle a manteisio'n llawn ar ynni gwynt, solar a morol gallwn ddod â trydan glân, diogelwch ynni, swyddi a ffyniant i genedlaethau presennol a dyfodol Cymru.

Dyfodol Ynni Cymru yw y lle i ddarganfod yr hyn y mae cymysgedd ynni amrywiol a gwydn yn ei gynnig a sut y dylem adeiladu map ar gyfer llwyddiant y sector.

Pam ddylech fynychu?

Cyfle cyntaf i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant a chysylltu â'r holl brif chwaraewyr yn sector ynni adnewyddadwy Cymru. Dyfodol Ynni Cymru yw’r unig ddigwyddiad penodedig o'i fath lle bydd mynychwyr yn

  • Cael cipolwg – ar y tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant a'r polisi sy'n effeithio ar Gymru
  • Cysylltu – â dros 500 o weithwyr proffesiynol ym maes ynni adnewyddadwy
  • Rhwydweithio – yn ein digwyddiad swper cynhadledd unigryw
  • Codi eich proffil – o flaen penderfynwyr allweddol o'r diwydiant a'r sector cyhoeddus
  • Mynediad – i wybodaeth fusnes unigryw a gwybodaeth dechnoleg arloesol
  • Elwa o Ostyngiadau – mae aelodau RUK yn cael mynediad gyda disgownt i'n digwyddiadau.
Pwy fyddwch chi'n cwrdd?

Mae ein cynrychiolwyr yn gymysgedd amrywiol o ddatblygwyr technoleg a phrosiectau, gwneuthurwyr polisi a phenderfynwyr uwch, rheoleiddwyr, cynghorwyr, cwmnïau seilwaith a'r gadwyn gyflenwi o bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Peidiwch â cholli allan – archebwch eich tocyn heddiw! 

Register here

2022 Lluniau digwyddiad