Ynni Dyfodol Cymru 2022
Pam nawr?
Ni fu Net Zero erioed yn fwy perthnasol nac amserol. Bydd y cyhoeddiad diweddar gan Ystad y Goron am y rownd brydlesu arfaethedig yn y Môr Celtaidd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cymru i wireddu ei huchelgeisiau gwyrdd. Mae Ynni Dyfodol Cymru yn gyfle i ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i Gymru ei wneud i ddod yn genedl sero net.
Themâu digwyddiadau
- Gwynt alltraeth sy'n arnofio
- Gwynt ar y tir
- Hydrogen
- Beth sydd angen i Gymru ei wneud i lwyddo fel cenedl sero net
Pam mynychu?
Ynni Dyfodol Cymru yw’r unig ddigwyddiad penodol o’i fath lle bydd mynychwyr yn:
- Deall – Tueddiadau diwydiant a fydd yn effeithio ar Gymru
- Rhwydwaith / Cyswllt – gyda 150+ o weithwyr proffesiynol y diwydiant
- Darganfod – beth sy’n cael ei wneud i gyrraedd Cymru Sero Net
- Mynediad – gwybodaeth fusnes unigryw a mewnwelediadau technoleg blaengar
- Gostyngiadau – mae aelodau RUK yn mwynhau mynediad gostyngol i’n digwyddiadau
Pwy fyddwch chi'n cyfarfod?
Bydd y rhai fydd yn bresennol yn cynnwys datblygwyr, uwch wneuthurwyr polisi, datblygwyr technoleg a phrosiectau, rheoleiddwyr, cynghorwyr, cwmnïau cadwyn gyflenwi a llawer mwy o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.